Mae arni ofn nodwyddau.

Bet druan, a’i holl ofnau yn pentyrru’n anweledig o’i chwmpas, yn creu muriau i’w chau hi i mewn yn ei meddwl ei hun. Nodwyddau. Gwaed. Tywyllwch. Clowns. Pobol. Unigedd. Salwch. Marwolaeth. Mae Bet wedi treulio’i bywyd yn cilio oddi wrth un ofn neu’i gilydd, yn llywio’i dyddiau gan fod yn ofalus rhag ofn i rywbeth ddigwydd, yn lle bod ofn i rywbeth beidio digwydd.