Ar ôl cael eu rhoi ar ffyrlo yn gynharach eleni, manteisiodd Carys Jones a Cadi Newbery o Gaerdydd ar y cyfle i sefydlu gwefan Anni, sy’n rhoi platfform i gynhyrchwyr a chrefftwyr Cymreig…

Pan gafodd Carys Jones a Cadi Newbery eu rhoi ar ffyrlo o’u swyddi gyda thîm digidol yr Eisteddfod yn gynharach eleni, fe benderfynodd y ddwy o Gaerdydd droi cyfnod anodd yn rhywbeth positif.