Trip i ben arall y byd sydd wedi ysbrydoli cân ddiweddara’ Mêl…

Mêl yw band newydd-ish Eryl ‘Pearl’ Jones, cyn-ganwr Jen Jeniro.

Mae degawd wedi hedfan heibio ers i Jen Jeniro ryddhau’r gân wych ‘Dolphin Pinc a Melyn’ – fe gafodd ei dewis yn sengl orau 2010 yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru.

Pluen arall yn het y band o Lanrwst oedd cael recordio sesiwn i BBC Radio 6 Music.