Ers tua dwy flynedd bellach, dwi’n un o ‘bobl y parc’. Hynny ydi, ers cael ci dwi’n mynd yno bron bob dydd. Dydi o ddim y parc deliaf o bell ffordd. Mae ’na wastad sbwriel rywle, neu faw llwynog i Sioni rolio ynddo, a do, dwi wedi cael ambell ffrae yno. Ond ar y cyfan, dwi’n mwynhau mynd yno a siarad wrth i’r cŵn flino ei gilydd, nhwythau wedi ffurfio pack bach digon bodlon erbyn hyn.