Dw i wedi bod yn ceisio annog trafodaeth am gerfluniau o fenywod am bron i ddegawd, a dw i’n dechre difaru bo fi wedi gwneud.

Mae’r ymateb cecrus, beirniadol a sinigaidd i ddadorchuddio cerflun coffa Mary Wollstonecraft wedi fy nigalonni dros yr wythnos ddiwetha’ – ac yn gwneud i mi boeni am ffawd ymgyrchoedd y dyfodol dros well cynrychiolaeth i fenywod.