Rwyf wrth fy modd yn ffermio.
Fel arfer, rwy’n cadw’n dawel am fy ffermydd – un ger Llanidloes a’r llall wrth droed yr Wyddfa, ar gyrion Wrecsam.
Yno rwy’n plannu ieir a thatws; yn berwi caws a datblygu ffyrdd newydd o dyfu sbageti. Rwy’n hoff iawn o fy mhraidd o fuchod (yr enwog Welsh Brown Longhorn Crossbreed Sort Tail) – ac fe fyddaf yn mynychu’r Sioe Frenhinol bob mis Chwefror er mwyn gwerthu cynnyrch y wraig, sef hetiau garddio wedi eu creu o ddail bresych a madarch.