Mae ’na daith sydd byth yn darfod.
Baglodd mis Tachwedd o’r hydref, a’r tymhorau, rhywsut, wastad yn driw. Ymestynnodd Llŷn ei braich drwy’r llanw a’r trai, ac yn ei chesail, swatiodd ryw Adref bendigedig rhag y gaeaf. Dyma gyfnod gorffwys. Dyma’r amser i gymryd hoe, a rhyddhau ochenaid gynnes, bodlon o ryddhad ar ôl siwrnai hirfaith. Mae’r lle wedi tawelu a llonyddu. Mae curiad sŵn y traed wedi tewi.
Ond mae ’na gymaint o lwybrau.