Yr wythnos hon, dw i wedi cael fy ysbrydoli. A d’yw e ddim byd i ’neud gyda Nadolig. Wi erioed wedi bod yn ‘ffan’ o’r ŵyl felly mae’r ffaith bod y sôn cynyddol amdano wedi troi yn obsesiwn, wedi hala fi i ddyfeisio gêm newydd. Pob tro mae newyddiadurwr neu wleidydd yn dweud ‘Nadolig’ ar y teledu neu ar y radio, wi’n yfed shot o tequila. Os mae’r sôn amdano yn parhau, fel mae wedi bod dros y dyddiau diwethaf, mi fydd gymaint o tequila yndda i ni fydd jiawl o wahaniaeth sawl bwbl fydd o gwmpas y b