Mae’n rhaid bod Mike Pence, y dyn fydd yn Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau am fis neu ddau arall, yn ddyn hapus iawn iawn.

Ac yn dathlu fel na ddathlodd yr un dyn byw erioed.

Mae’n rhaid ei fod e wedi teimlo rhyddhad enfawr o glywed y newyddion bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr ei wlad wedi penderfynu dod â chyfnod Trump wrth y llyw i ben, ar ôl un tymor yn unig yn swydd yr Arlywydd.