“’Fala’! ‘Fala’, filoedd!”

Dyna oedd cri Aderyn y Bwn o’r Banna.

Ac ydyn, maen nhw ymhobman. Nid yn unig ar y coed, yn yr ardd, ar y llwybrau, ond yn y gegin, yn y cyntedd, yn y shed, mewn gwahanol fwcedi, neu focsus, yn aros i’w malu, neu’i plicio neu’i piclo.

S’dim oergell digon mawr yn bod i gadw’r holl afalau ry’n ni’n eu cael yn flynyddol, na dychymyg digon eang i ddyfeisio ffyrdd newydd o’u defnyddio nhw.