Mae’n sefyllfa anodd i bawb ar hyn o bryd ac mae’r coronafeirws yn cael effaith fawr ar ein clybiau chwaraeon. Mae’r Cymru Premier [yr enw newydd ar yr Uwchgynghrair] mewn peryg difrifol gyda chlybiau fel Caernarfon yn colli £3,000 am bob gêm lle nad oes cefnogwyr yn talu am fynediad.