Wel, tri ohonyn nhw beth bynnag – a’r gath yw un ohonyn nhw.

Fe chwythodd storom Francis drwy Gymru’r wythnos ddiwetha’. Dw i ddim yn siŵr os chwythodd e’r holl ffordd o Assissi, ond yn sicr doedd hwn ddim yn ffrind i fywyd gwyllt. Fe gludodd un ‘Aderyn drycin Manw’ druan ymhell o’i gynefin a’i adael yn flinedig ar ben y bryn yn Llandeilo tu ôl i’n tŷ ni.

Maen nhw’n dweud mai gallu’r aderyn yma, (a’r union allu a roddodd enw iddo) yw ei fod e’n rhagweld storom yn dod.