Mae Elan Evans yn dwlu ar Gaerdydd, yn dod o deulu roc a rôl, ac yn medru troi ei llaw at bach o bopeth.

Cyflwynwraig radio a threfnydd gigs yw hi yn bennaf, ond mae hefyd wedi treulio rhan helaeth o’i bywyd yn actio.

Dros gyfnod yr Eisteddfod AmGen mae wedi bod yn cynnal cyfweliadau â cherddorion, ac yn cadeirio trafodaethau am y sîn roc Gymraeg.

Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ei gwythiennau, ac mae’n dod o linach o ffigyrau Cymreig tra adnabyddus.

Huw Stephens, y cyflwynydd BBC Radio 1, yw ei hewythr; ac mae Gruff Rhys, y cerddor ac un o gyd-sefydlwyr grŵp y Super Furry Animals, yn gefnder cyntaf i’w mam.

Bardd ac academydd oedd ei diweddar dad-cu, Meic Stephens, ac ef wnaeth baentio’r murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ cyntaf yn Llanrhystud – mae hi’n ei gofio fel “Bamp”.

Ac ar ben y cyfan mae ei thad, Aron Evans, a’i dad yntau, Anthony Evans, yn arlunwyr.

Byddai rhai yn teimlo pwysau mawr o fod â ffigyrau mor weithgar yn eu teulu, ond mae Elan Evans yn ystyried y cyfan yn ysbrydoliaeth.

Mae’n “amazing” bod cymaint o’i theulu ynghlwm â’r celfyddydau, meddai, ac mae’n dweud eu bod yn “gefnogol iawn” pan mae’n bwrw ati i wynebu heriau newydd.

“Dw i’n credu bod cael pobol yn fy nheulu sydd yn gweithio yn y maes creadigol yn normaleiddio’r cyfan mewn ffordd,” meddai.

“Yn amlwg mae hefyd yn huge ysbrydoliaeth pan mae dy Bamp di wedi gwneud yr holl bethau mae wedi eu gwneud. Ac wedi sgwennu’r holl bethau anhygoel yma – yr holl gerddi yma, yr holl lyfrau yma.

“Dw i ddim yn cymharu fy hun â nhw, yn amlwg, ond mae yn dy ysbrydoli i weithio’n galed yn dy faes di ac i wneud yn iawn – a hefyd i fod yn berson neis hefyd tra bod ti wrthi sy’n bwysig iawn!”

Ffaith llai hysbys, bellach, am Elan Evans, 27, yw ei bod wedi treulio hanner ei bywyd yn gweithio fel actores.

Ers pan oedd hi’n ddwy oed, hyd at pan oedd hi’n bymtheg, hi oedd Sioned Charles (merch Denzil Rees) ar opera sebon Pobol y Cwm.

“Ro’n i’n lyfo Pobol y Cwm,” meddai. “Hwnna oedd fy ail deulu i yn tyfu fyny.

“Roedd yn gymaint o thrill mynd i stiwdios BBC Llandaf, rhoi dillad gwahanol ’mlaen, a chael actio ar set Pobol y Cwm gyda Gwyn [Elfyn] a Sera [Cracroft] fy rhieni [ar y sgrîn].”

Er nad yw hi’n gweld ei hun yn dychwelyd i Gwmderi, dyw hi ddim yn diystyru’r posibiliad o ddychwelyd at actio ar ryw ffurf.

“Fy nghariad cyntaf i oedd actio, drama, theatr, a theledu,” meddai. “A dw i’n dal i fod yn caru gwylio teledu. Dw i’n caru gwylio dramâu a stwff. Mae’n rhywbeth sy’n dod â phleser mawr i fi.

“A buasen i yn caru mynd nôl i actio rhyw ddiwrnod. Never say never!”

Mae wedi treulio’i hoes hyd yma yn byw yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud mai yn y brifddinas mae ei “chalon”.

Mi aeth i Ysgol Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd, ac yna Ysgol Glantaf yn Ystum Taf, cyn astudio drama a theatr ym Mhrifysgol De Cymru.

“Dw i literally heb adael Caerdydd,” meddai. “Ges i fy ngeni yma, magu yma, ac es i i’r brifysgol yma hefyd.

“Dw i jest yn caru Caerdydd. Dw i’n hoffi’r gymuned sydd yma, ac mae fy nheulu i i gyd yma. Wel, y rhan fwyaf ohonyn nhw. Does nunlle gwell rili yn fy marn i!”

Mae hefyd yn gweithio yn y brifddinas i Glwb Ifor Bach lle mae’n trefnu gigs, ond bellach mae ar ffyrlo oherwydd yr argyfwng Covid.

Mae wedi treulio tair blynedd yno, mae’n “caru” ei swydd, ac mae hi’n gweld eisiau’r clwb eiconig.

“Mae’r misoedd diwetha’ yma wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i allu gweithio yn rhywle fel hynna,” meddai.

“Dw i actiwali’n rili colli fy swydd. Dw i’n colli’r bobol dw i’n gweithio gyda. A dw i’n colli’r miwsig hefyd.

“Ro’n i’n gallu mynd i watsho gig besicli bob diwrnod yn fy mywyd os o’n i moyn. Allen i fynd i Clwb a watsho band random yn chwarae. A nawr dw i methu.

“Dw i’n very privileged. Mae jest yn od. Mae rhan massive o fy mywyd i literally wedi dod i stop.”

Yn ogystal â threfnu gigs mae Elan Evans wedi cyfrannu at gyngherddau gyda’i DJ-io.

Roedd hi’n arfer bod yn rhan o ddeuawd, DJs Mari ac Elan, ond mae Mari Elen Jones, bellach wedi dychwelyd i’r gogledd i fagu teulu.

“Mae’n anodd yndyw e,” meddai. “Mae pawb yn tyfu fyny. Ond dw i mor ddiolchgar am y cyfnod, achos heb DJs Elan a Mari buasen i no way yn gwneud beth dw i’n gwneud yn awr.”

Mae bellach yn byw yn Nhreganna gyda’i chariad, Emyr Taylor, drymiwr y band Los Blancos.