Efallai eich bod chi’n cofio Ben Dudley. Mewn protest pan wnaeth Caerdydd benderfynu chwarae mewn crysau coch, fe wnaeth Ben roi ei gefnogaeth ar werth, i unrhyw glwb, mewn ocsiwn ar E-Bay. A dydy Ben erioed wedi mynd yn ôl i Gaerdydd ers y dyddiau tywyll yna. Mae wedi symud i’r Iseldiroedd i weithio, lle mae yn gwylio ei hoff dîm newydd, sef Feyenoord. Efallai eich bod chi wedi gweld ei faner, ag arno ‘Feyenoord Cymru’, wrth ddilyn y tîm rhyngwladol.