Mae golygydd y gyfrol Un yn Ormod eisiau dangos i bobol bod modd mwynhau bywyd heb alcohol, ac yn dweud bod ei bywyd “lot mwy cyfoethog” ers rhoi’r gorau i yfed y ddiod gadarn ddwy flynedd yn ôl.

Mae Angharad Griffiths yn cyflwyno’r gyfrol er cof am ei “chefnder a ffrind gorau”, y cerddor Gareth ‘Chef’ Williams ac aelod o’r band hip-hop Cymraeg Y Tystion. Yn 2018 fe fu farw o ganlyniad i’w alcoholiaeth yn 39 oed.