Ches i ddim dweud hwyl fawr.

A minnau wedi diawlio’r lle yn ddyddiol ers saith mlynedd, ches i ddim fy nyddiau olaf i gymodi â’r ysgol – un tro olaf o gwmpas y coridorau arogl papur, un cyfle i redeg fy mysedd dros y graffiti ym mhren siliau ffenest yr adran Saesneg, un cyfnod byr o deimlo eto fel tawn i’n berchen ar y fan hyn, a’r fan hyn yn berchen arna innau. Fe ga i fynd yn ôl i ddweud helo, neu i weld sioe neu i gasglu fy hen waith celf, ond ymwelydd fydda i.