Mae’n debyg fod dwy ran o dair o oedolion y wlad yn obese. Beth yw hwnna yn Gymraeg? Gordew? Beth bynnag yw e’, mae e’n feirniadaeth lem ar y ffordd ry’n ni’n byw. Trachwant yn trechu cymedroldeb. (Dyna chi agoriad i gyflwyniad llafar yndife). Ac yn rhyfeddol, cymaint yw’r broblem, fod ‘hawl’ unigolyn i fwyta faint fyno fe, yn rhoi straen ar y Gwasanaeth Iechyd. Mae’r peth yn sgandal cenedlaethol. Ac rwy’n sicr o wneud rhywbeth amdano fe! Ar ôl imi orffen y cwdyn yma o marshmalows