Mae gennyf feddwl fel rhidyll.

Rwy’n ei chael yn anodd cofio ystod eang o bethau. Megis: enwau’r blodau yn fy ngardd; y rheswm dros fynd o un ystafell i’r llall; lleoliad fy sbectol; cynnwys llyfrau hanes rwyf newydd eu darllen – a beth wnes i ddoe.

Nid symptom o f’oedran yw hyn, fodd bynnag. Fel hyn y bûm erioed.