Rwyf wedi sôn eisoes am y prinder sylw i wleidyddiaeth Cymru, o’i chymharu â gwleidyddiaeth Prydain, yr Alban… a Rockall.

Pwy sy’n gyfarwydd, er enghraifft, â Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) sydd wrthi’n ymlwybro drwy’r Senedd? Neu beth am Reoliadau Deunyddiau Planhigion Llysieuol a Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020?

Fe fydd yr olaf o’r rhain yn eich gorfodi i dalu £50 i Lywodraeth Cymru er mwyn cofrestru cyn tyfu ffa dringo a letys yn eich gardd*.