Oes unrhyw beth yn well na mynd ar daith hir mewn bws?

Oes.

Er enghraifft: mynd ar drên neu awyren. Neu ar gefn beic. Neu gerdded.

Neu fwyta ffa pob oer; cwympo oddi ar gadair; llosgi eich bys gyda matsien; colli eich sbectol, neu ddeffro’n noeth yn Nando’s.

Go debyg ei fod yn amlwg, erbyn hyn, nad wyf yn mwynhau teithio ar fws.