Mae’r cyflwynydd teledu siriol yn hoffi dillad sy’n gwneud iddi deimlo’n hapus. Mae hi’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon…

Siop ddillad Nain 

Roedd Nain yn arfer rhedeg dwy siop ddillad yng Nghaernarfon efo fy modryb, ac mae gen i atgofion plentyndod o dreulio amser yn y siop a dotio ar weld pobl yn diflannu i’r stafelloedd newid a dod allan mewn ffrogiau hardd!  Roedd Nain yn gwerthu hetiau a gwisgoedd priodasol yn un o’r siopau ac mi oeddwn i wrth fy modd yn trio’r hetiau yn y drych.  Mi oedd Nain a Taid wastad yn stopio i gael swper efo ni adre yn Llandrillo-yn-Rhos ar eu ffordd nôl o fod yn siopa am stoc yn y warws yn Lerpwl a Manceinion, ac mi oedd hi’n teimlo fel Dolig gweld yr holl ddillad newydd yng nghefn y car… ac ambell ffrog newydd yn cyrraedd i mi!

Dw i’n cofio gweld Mam yn gwisgo ffrogiau hir i fynd allan i ambell noson swper a dawns pan oeddwn i’n ferch fach, a rhyfeddu at ba mor hardd roedd hi wastad yn edrych a Dad mewn bo-tei melfed piws. Mae’n debyg bod gweld dillad hardd wedi llonni fy nghalon ers cyn cof.

Lliwgar a blodeuog

Mae’n debyg bod y dillad dw i’n eu gwisgo yn adlewyrchu fy nghymeriad – dw i’n hoffi dillad lliwgar, blodeuog efo cymeriad. Dw i ddim yn licio dillad sydd wedi’u teilwra, dillad tynn, ffurfiol. A dw i’n casáu gwisgo jîns.

Dw i’n cofio pan oeddwn i’n cyflwyno cyfres ar S4C o’r enw Cwpwrdd Dillad, roeddwn i’n gofyn i bawb ddisgrifio eu steil a rŵan mod i’n gorfod ateb y cwestiwn hwnnw, dw i’n sylweddoli pa mor anodd ydy o!  Yn y bôn dw i’n gwisgo ffrogiau o hyd, a chardigan drostyn nhw fel arfer.  Teits a bŵts efo nhw yn y gaeaf a flip flops yn yr haf! Dw i’n prynu lot o gardigans, a wnes i brynu ffrog fflamingo o siop boutique bach hyfryd yng Nghaernarfon – Lotti & Wren.

Dw i’n caru les a ffrils a bows.  Dw i wrth fy modd efo siacedi denim.  Dw i’n hoffi dillad lliwgar o ddydd i ddydd ond yn rhyfedd iawn dw i, rhan amla’, yn gwisgo ffrog ddu a siaced denim neu ledr pan dw i’n mynd am noson allan.

Mae gen i ffrog ddu oddi ar yr ysgwydd a dw i’n ei charu hi. Er nad ydy hi’n un ddrud mae hi’n ffefryn. Mae hi mor braf i’w gwisgo. Fedra i ei gwisgo i fyny efo gemwaith a heels neu ei gwisgo i lawr efo sgidiau fflat a siaced denim.

Hapus

Os ydy cartrefi pobl yn adlewyrchu eu cymeriadau, dw i’n credu bod yr un peth yn wir am ddillad pobl.  Dw i’n licio dillad sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus. Mae’r dillad dw i’n eu gwisgo yn dueddol o fod yn rhai ‘joli’ a dw i’n naturiol yn berson eitha’ hapus y rhan fwyaf o’r amser.  Dw i’n caru’r lliwiau pinc a melyn.  Dw i’n licio blodau a phethau del o fy nghwmpas adref a dw i’n gwisgo lot o ffrogiau efo patrymau blodeuog.  Pe bawn i’n cael dewis, mi fyswn i’n gwisgo blodau yn fy ngwallt a glitter ar fy wyneb fel taswn i’n mynd i ŵyl bob dydd, ond yn amlwg dydy hynna ddim yn addas!

Mi fydda i’n cyflwyno rhaglen arbennig o Noson Lawen i ddathlu Santes Dwynwen ddechrau’r flwyddyn nesa’ felly dw i’n edrych ymlaen at chwilio am ffrog goch neu binc fydd yn addas ar gyfer hynna.

Bŵts Uggs a phyjamas

Dw i’n gwisgo mwy o ddillad ymarfer corff ers y locdown. Ond os dw i’n gweithio – hyd yn oed os mai yn y tŷ ydw i a neb yn fy ngweld i – dw i wastad yn gwisgo colur a ffrog.  Dw i wedi bod yn archebu dillad dros y We yn barod i ddechrau ffilmio Adre, unwaith gallwn ni fynd i gartrefi pobl unwaith eto.

Y pethau dw i’n eu gwisgo bob dydd ac yn eu caru fwy na dim arall, am eu bod yn braf, ydy fy bŵts Uggs.  Rheiny dw i’n eu gwisgo o gwmpas y tŷ fel slipars gan fod llawr derw neu deils ymhob stafell yn hen ran y tŷ.  Os oes modd rhoi gwerth i wisg yn ôl faint o ddefnydd mae’n gael, heb os, fy Uggs ydy’r pethau dw i wedi cael y defnydd mwya’ ohonyn nhw. O ia, a phyjamas. Dw i’n newid i fy mhyjamas tuag amser te, 6pm – does dim byd gwell yn y byd.

Roeddwn i’n arfer gwisgo sodlau uchel drwy’r amser ac roedd gen i lwythi o sgidiau, ond ers cael plant dw i prin yn gwisgo sodlau uchel rŵan. Mae’n well gen i fod yn droednoeth na gwisgo sgidiau.

Gwallt gwyrdd a sôs coch

Dw i’n dueddol o gadw fy ngwallt yn yr un steil – ‘bob’ efo ffrinj.  Dw i’n mynd i Elaine’s yn Llanrug i gael torri a lliwio fy ngwallt.  Unwaith es i ar wyliau ac fe drodd fy ngwallt yn wyrdd yn y pwll nofio!  Mi oeddwn i eisiau crio. Bob nos roedd y bechgyn yn tywallt sôs coch ar fy ngwallt, ac ar ôl tuag awr roedd o nôl yn felyn eto tan i mi fynd nôl i’r pwll ac roedd o’n troi’n wyrdd eto. Pan oeddwn i’n byw yn Istanbul es i mewn i siop farbwr i gael trim cyn cael cyfweliad mewn ysgol yno i ddysgu Saesneg. Ac mi wnes i ofyn, mewn Twrceg, iddyn nhw dorri fy ngwallt ‘yn fyr’… a’r munud nesa fe dorron nhw fy ngwallt efo clipers nes bod gen i cut gradd pedwar dros fy mhen i gyd. Mi oedd o’n erchyll!

Dw i’n gwisgo colur bob dydd, mae’n rhan o’r ddefod o baratoi yn y bore.

Modrwyau

Dw i wrth fy modd efo modrwyau.  Mae gen i lwythi o fodrwyau sy’ ddim yn ddrud iawn ond mae gen i un ffefryn ges i ar ôl Nain pan fuodd hi farw, mae hi’n agos iawn at fy nghalon.  Hefyd mi ges i fodrwy dw i’n ei charu fel anrheg pen-blwydd gan fy ngŵr yn Eisteddfod Llanrwst y llynedd.  Modrwy gan Mari Thomas o Landeilo ydy hi – mae hi yn siâp y ffens sydd i’w weld ar lan môr.  Dw i wrth fy modd efo gwaith Ann Catrin Evans a dw i’n gobeithio gwneith fy ngŵr ddarllen hwn achos bod hi bron yn amser dathlu ‘mhen-blwydd eto! Dw i’n licio gemwaith Buddug, Meinir Wyn, a Lora Wyn hefyd.

Beth fysech chi’n ei achub o’r wardrob mewn argyfwng? 

Os ydy’r cyfnod clo yma wedi dysgu unrhyw beth i mi – does dim gwerth go-iawn i unrhyw beth materol sydd yn ein cartrefi na’n cypyrddau dillad – dim ond teulu a ffrindiau ac iechyd sy’n bwysig.