Gyda’r rhaglen Tŷ am Ddim yn dychwelyd am ail gyfres ar S4C, mae Golwg wedi holi dau fu’n rhan o gyfres gynta’r sioe sy’n rhoi arian i ddau berson brynu tŷ.

Yn ôl rheolau’r rhaglen, mae’r ddau yn gorfod adnewyddu a gwerthu’r tŷ ar y farchnad agored o fewn chwe mis… ac os oes elw, mae’r ddau yn cael cadw’r arian hwnnw.

Dau fu’n cymryd rhan yn y gyfres y llynedd yw Chris Rees, sy’n byw yn Llannor ger Pwllheli, a Luke Phillips o Gaernarfon.