Mae Sian Eleri yn cyflwyno sioeau ar Radio Cymru a Radio 1. Mae’r ferch o Gaernarfon yn byw yn Llundain…

Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno ar y radio?

Wnes i astudio Broadcast Journalism yn y brifysgol yn Leeds, gan drio cael mewn i orsaf radio’r myfyrwyr… dim ond i gael fy nhroi lawr am y ddwy flynedd gyntaf, a bron rhoi’r gorau iddi.