Crwt y 90au ydw i. Tan yn ddiweddar do’n i ddim wedi meddwl rhyw lawer am y peth. O’n i’n mynnu bo’ Oasis yn well na unrhyw beth gynhyrchwyd yn y 00au, oeddwn, a fydd neb fyth yn cŵlach nag Eric Cantona yn fy llygaid i… ond nawr dw i wedi sylwi ar sgil-effaith reit sylweddol: dw i’n methu amgyffred be’ sy’n digwydd ym Mhrydain, na’r byd, ar hyn o bryd.