Wrth i Golwg fynd i’r Wasg ddechrau’r wythnos roedd undeb Unite yn paratoi “protest mewn undod â’r gweithlu sy’n cael eu rhoi ar y clwt ym Mhenygroes” yng Ngwynedd.

Mae’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi mynegi siom gyda chwmni Northwood am eu penderfyniad i gau’r ffatri bapur yn Nyffryn Nantlle.

Yn ôl Siân Gwenllïan, mae colli 94 o swyddi mewn ardal wledig fel hon “yn gyfwerth â [cholli] miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru”.