Mae Keir Starmer “wedi gwneud dechreuad da dros ben” yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf yn arweinydd y Blaid Lafur.

Dyna farn Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru ac Aelod Llafur o’r Senedd, sydd yn gefnogwr brwd o olynydd Jeremy Corbyn.

Daeth Keir Starmer yn Arweinydd Llafur ym mis Ebrill, a hynny wedi perfformiad trychinebus y blaid yn etholiad cyffredinol 2019 pan gollwyd 60 sedd, a nifer ohonyn nhw yn gadarnleoedd tybiedig yng ngogledd Lloegr a Wrecsam.