Rwy’n sylweddoli nad yden ni allan o’r goedwig Gorona eto – allwn ni ddim mynd i’r capel, er enghraifft, sy’ braidd yn rhyfedd.

Fydd hi’n rhyfeddach fyth mynd i’r capel, heb allu canu emynau.

Ond ry’n ni’n gallu gwneud ambell i beth arall, ac o leia’ nawr allwn ni fwyta’n tatws ni’n hunain.

Nid bod yna gysylltiad, na chystadleuaeth rhwng taten a chapel, ond ichi’n deall be’ s’da fi.

Fe fydd yna rai ohonoch chi’n dal i grafu pen, felly gair o esboniad.