Mae cwestiynau yn codi am briodoldeb cofeb i un o Gymry mawr Lerpwl, meddai’r hanesydd Gari Wyn…

Yng Nghymru mae lliaws o gofgolofnau er cof am wleidyddion, cadfridogion, tywysogion, heddychwyr ac ati. Cyn hir hefyd bydd rhai o ferched amlwg ein hanes yn cael eu hanfarwoli mewn safleoedd cyhoeddus amlwg. Ond beth am gofebau o Gymry dros y ffin yn Lloegr?