Yn ogystal ag actio mewn cyfresi fel Craith, Little Women, a’r ffilm King Arthur:Excalibur Rising, mae Annes Elwy o Benarth yn rhedeg ‘caffi stepen drws’ o’r enw Y Bwrdd…

Sut wnaethoch chi gychwyn actio?

Roeddwn i yn blentyn eitha’ dramatig, wastad yn gorfodi mam a dad i wrando arna i’n adrodd stori neu fynychu fy oriel gelf i. Wedyn ddaeth steddfod a sioeau ysgol. Ond dim ond pan gaethon ni athrawon drama newydd wnes i sylweddoli bod actio yn yrfa bosib. Mrs Cynan a Miss Wilson, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, yw’r athrawon gorau yn y byd.

Be fu’r rhannau mwya’ cofiadwy hyd yma?

Drama lwyfan YEN sydd wedi golygu’r mwya’ i fi hyd yn hyn. Sgript hollol anhygoel, un o’r rhai gorau i mi ddarllen erioed…

Wnaethon ni o ym Manceinion yn wreiddiol ac wedyn cael transfer i’r Royal Court yn Llundain, flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae o’n beth prin i fedru dod nôl at sgript, a dod nôl at y tîm a’r cast, a dw i’n meddwl bod hynna wedi hoelio ein perthynas ni mewn ffordd sydd ddim yn cael cyfle i ddigwydd ar swyddi eraill.

Pan o’n i’n astudio, wnaethon nhw ofyn i ni enwi ein breuddwyd o swydd, a drama newydd yn y Royal Court ddudais i. Dw i’n torri bol eisiau bod nôl yna!

Beth yn union ydy ‘caffi stepen drws’ Y Bwrdd?

Esblygiad o take away ydi o, ond bod y bwyd yn fwyd cartref ac yn lot mwy personol na take aways traddodiadol!

Ddewisais i’r term ‘caffi stepen drws’ achos bod o’n creu teimlad cymdeithasol, a braf, a chyffrous erbyn hyn, o fynychu caffi!

Mae cael cludiant caffi stepen drws yn ddigwyddiad, fel mae trefnu mynd i gaffi, lle mae jyst cael take away fel arfer yn benderfyniad munud ola’!

Pa fwyd ydach chi’n darparu?

Mae’r bocs picnic dw i newydd lawnsio yn boblogaidd iawn wrth i bobl ddechrau medru cymdeithasu ar raddfa fach eto.

Ac mae o hefyd yn dda ar gyfer date-night adref – Focaccia, sausage rolls posh, dau fath o salad, cawsys hyfryd, Olewydd Gordal, a’r pethau gorau dw i erioed wedi gwneud – y cookies! Mae’r bocsys brecwast hefyd yn boblogaidd iawn – brecwast y ffermdy, a’r ‘Cardamom & cinnamon crunch’.

Ac mae’r gacen lemon a mafon yn cael lot o ganmoliaeth! Recipe mam ydi honna, a hwnna oedd highlight y bocs bwyd pan o’n i’n ferch fach!

Faint o alw sydd yna am eich bwyd?

Mae prysurdeb Y Bwrdd yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn hollol annisgwyl.

Wnes i ddim ystyried byse lle i fi yn y farchnad am y pum wythnos cynta’, felly roeddwn i’n llenwi fy amser i yn siarad ar y ffôn, plannu llysie, ac yn peintio, tra’n trio peidio poeni am arian.

Ond gan fy mod i ddim yn gymwys am gymorth gan y llywodraeth, mi’r oeddwn i yn amlwg yn poeni lot amdano fo. Ond wedyn, ar ôl gwneud brecwast bach i’m ffrind i Casi, a’i bostio fo ar dudalen instagram @y_bwrdd, ddaeth o’n amlwg yn weddol gyflym bod yna alw mawr! Es i ati wedyn i drio dyfalu be fysai pobl eisiau, a rhoi bwydlen at ei gilydd, ond yn gwneud o’n glir mod i’n hapus i goginio unrhyw beth bron a bod, ac wedyn addasu’r fwydlen sydd ar y We o amgylch be’ oedd pobl wedi gofyn amdano fo fwyaf. Ac ers hynny, mae o wedi parhau i fy nghadw i’n brysur iawn bob dydd, diolch byth!

Pwy yw cwsmeriaid Y Bwrdd?

Lot o Gymry Cymraeg, sydd wir yn neis. Lot o deuluoedd a ffrindie sydd ddim yn byw yn lleol, yn prynu bocsys yn anrhegion i bobl fan hyn. Lot o rieni newydd angen prydau bwyd i’w cynnal nhw, a lot o bobl ifanc sydd yn gweld eisiau brunch!

Beth yw eich ofn mwya’?

Llygod. Bach a mawr. Ro’n i’n crio mewn ofn yng ngorsafoedd tube Llundain os o’n i’n gweld rhai pen pella’r platfform!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i wedi troi yn rhywun sydd yn gwneud lot o ymarfer corff, ond dal ddim yn meddwl am fy hun fel rhywun sydd yn. Wnes i ddim mynd i unrhyw wers addysg gorfforol yn yr ysgol uwchradd, ond erbyn hyn dw i’n gneud HIIT (High-intensity interval training), yoga, zumba, circuits, a lot o gerdded.

Beth sy’n eich gwylltio?

Ar hyn o bryd, y llestri.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Fyswn i’n gwahodd fy ffrindie i Lowri ac Emily fel bo fi at ease, a fy ffrind arall i, yr actores Maya Thurman Hawke, gan bod hi’n wych am gynnal sgyrsiau difyr, ac ambell i berson doniol fel Chris a Rosie Ramsey. Hefyd, Yotam Ottolenghi fel mod i’n gallu cael tips bwyd, Reggie Yaytes achos dw i’n ei ffansïo fo, a Laura Marling a Dolly Parton, yn y gobaith o gael cyngerdd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Jake Davies.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

‘Wir’.

Sut ydach chi’n teimlo am wisg ffansi? 

Dw i’n dreadio partïon gwisg ffansi, ond maen nhw wastad yn hwyl unwaith i chi ymroi yn llwyr!

Pa fath o wyliau fyddwch chi’n fwynhau?

Dw i’n dwlu ar fynd ar wyliau efo fy nheulu i, mae pob un wedi bod yn hyfryd. Cwmni sy’n gwneud gwylie!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dim lot!

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Dw i ddim wedi yfed dropyn yn ystod y cyfnod clo, ond dwi yn ffan o Amaretto Sours ac espresso martini!

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wna i fyth anghofio darllen dyddiaduron a llythyron y dramodydd Tennessee Williams – wnaeth o brofi pethau anhygoel. Wnes i hefyd wir fwynhau Just Kids gan Patti Smith, a Why we sleep gan Matthew Walker.

Beth yw’r ffilmiau gorau am goginio/bwyd?

Big Night, Julie & Julie, ac mae cyfrol o ffilmiau cartoon Japanese Flavors of Youth ar Netflix yn hyfryd hefyd.

Pam Annes ELWY?

Un o Lanelwy oedd Taid, felly o fanna ddaeth yr enw.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i’n yfed/bwyta hufen dwbl yn syth o’r pot, ac yn gallu ei orffen o mewn un sitting, pan ma fy will-power i’n isel.

A dw i wedi nofio’n noeth ym mhwll nofio Uma Thurman.