Rhywsut neu’i gilydd, mae pandemig y feirws yn creu tensiynau o bob math, gan gynnwys rhai ynghylch trefn lywodraethu’r ynysoedd bach hyn. Ac mae hynny’n cynnwys teimlad o symudiad cynyddol i ddileu datganoli… y rheswm pam y mae Lewis Owen bellach yn cefnogi annibyniaeth…
“Byddai’n naïf diystyru’r mudiad dileu fel ffenomenon ‘ymylol’, yn enwedig o ystyried ei fod wedi’i noddi – ac nid yn y dirgel – gan niferoedd mawr o’r to cyfredol o ASau Torïaidd, yn nodweddiadol o’r ffordd y mae eu plaid wedi cofleidio cenedlaetholdeb neilltuol Seisnig a gwrth-Geltaidd.
Er eu holl siarad blodeuog am leihau biwrocratiaeth ormodol, ddylen ni ddim twyllo ein hunain i gredu nad yw’r dilëwyr yn gwneud llai nac ymosod yn fwriadol ar egwyddor democratiaeth Gymreig yn ei hanfod, democratiaeth y bu’n rhaid brwydro’n galed i’w hennill.”
A fydd perfformiad Llywodraeth Cymru yn gallu newid hynny? Mae rhai yn disgwyl rhagor, yn sgil pethau fel y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a cholli swyddi mewn gweithfeydd fel un Airbus yn Sir y Fflint…
“Ble mae’r gwaith meddwl am sut i warchod unigolion, teuluoedd a chymunedau, a’u cynnal trwy gyfnod o newid? Dw i ddim wir yn disgwyl gweld dim o hynny gan lywodraeth Dorïaidd yn Llundain ond mae’n siomedig, a dweud y lleia’, nad ydyn ni’n ei weld gan Lywodraeth Cymru chwaith.” (John Dixon)
“… gall Llywodraeth Cymru addasu graddfa treth incwm hyd at 10c yn y bunt… byddai cynnydd o 1c ar bob graddfa dreth yn cynhyrchu tua £223 miliwn, digon yn braf i dalu am y cynnydd sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd… fydd ein gwleidyddion yn ddigon dewr? Gawn ni weld. Ond efallai taw nawr, pan fo pobl yn caru’r Gwasanaeth a hefyd yn debyg o fod mwy o’i angen nag erioed, yw’r amser gorau erioed.” (Victoria Winckler, Cyfarwyddwr bevanfoundation.org)
Dydi rhai, wrth gwrs, ddim yn disgwyl gwell o weld cyrff fel Banc Datblygu Cymru (BDC) yn rhoi benthyciadau i gwmnïau codi tai drud nad oes eu hangen ar bobol leol …
“Gwneud pethau’n waeth wnaeth datganoli, achos mae wedi rhoi cyrff i ni fel BDC sy’n esgus bod er budd Cymru ond mewn gwirionedd yn gwneud dim ond parhau’r drefn drefedigaethol. Ond mae llawer gormod ohonon ni’n cael ein twyllo am fod ‘Cymru’ neu ‘Gymreig’ yn enwau’r cyrff hyn. Tua’r unig sector o fywyd Cymru sy’n parhau’n sylweddol mewn dwylo Cymreig yw amaethyddiaeth… a dyna pam fod y dosbarth rheoli trefedigaethol i lawr yn y Bae wedi cyhoeddi rhyfel ar ffermio.” (jacothenorth)