Fe gafodd Neuadd y Brangwyn yn Abertawe ei oleuo yn goch ddechrau’r wythnos “i dynnu sylw at y sefyllfa argyfyngus sy’n wynebu’r diwydiant digwyddiadau”.

Roedd yn un o nifer – gan gynnwys Theatr y Grand yn Abertawe a Theatr y Ffwrnes yn Llanelli – oedd yn rhan o ymgyrch yn galw am gefnogaeth i’r diwydiant creadigol.