Mae’r cartre’ yn lle i ymlacio a diddanu, meddai’r gantores opera Rhian Lois. Mae’n byw mewn tŷ teras Fictorianaidd yn West Hampstead yn Llundain gyda’i gŵr, Joseph, a’u merch Elsi, sy’n dair oed…

Personoliaeth

Dy’n ni wedi byw yma ers 2017 – brynon ni’r tŷ ar Orffennaf 15 yn fuan ar ôl i ni briodi, ac roedd Elsi yn chwe mis oed. Roedd hi’n all go ond yn gyfnod cyffrous iawn. Mae West Hampstead yn berffaith achos mae’n teimlo fel pentre’ bach, mae digon o wyrddni ac mae’n ardal lle mae yna deuluoedd ifainc, felly mae lot o bethau i’w gwneud yma efo plant. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth i Lundain hefyd yn wych – mae fy ngŵr yn gweithio i Deutsche Bank yn Liverpool Street felly mae’n hawdd iawn iddo gyrraedd y gwaith.

Roedd y tŷ mewn stad ofnadwy pan brynon ni fe. Roedd y dyn oedd yn berchen y tŷ wedi byw yma ers oedd e’n grwtyn bach, a phan fu farw aeth y tŷ ar y farchnad. Roedd e wedi bod ar werth am dipyn, ond wnaethon ni fynd amdano yn syth. Roedden ni wedi bod yn edrych ar fflatiau, achos dyna beth oedden ni’n gallu fforddio, ond roedd hwn yn apelio am ei fod yn dŷ gyda gardd, pedair ’stafell wely a dwy ’stafell ymolchi.

Fuon ni’n byw efo fy chwaer-yng-nghyfraith yn Holborn am sbel ac wedyn ro’n i ar gontract i weithio yn Genefa am saith wythnos. Felly aeth Elsi, fi, mam-gu a thad-cu yno. Roedden nhw’n edrych ar ôl Elsi tra bo fi’n gweithio ac roedd Jo yn dod i weithio ar y tŷ bob nos, jest er mwyn cael y lle mewn stad i fyw ynddo fe. Pan ddaethon ni nôl roedd Jo wedi gorffen y gwaith a symudon ni mewn i’r tŷ yn syth. Mae Jo yn obsessed efo DIY nawr – doedd dim diddordeb gyda fe cyn hyn.

Ym mis Hydref llynedd wnaethon ni lot o waith ar y tŷ ac fe orffennon ni jest erbyn Dolig. Jo oedd yn goruchwylio’r gwaith adeiladu i gyd gyda fi ar y design committee! Dw i’n credu bod y tŷ yn dangos ein personoliaethau ni – ry’n ni’n deulu prysur ofnadwy, felly mae’n rhywle hyfryd i ymlacio a chael pobl i ddod draw i fwynhau’r tŷ hefyd. Dw i’n obsessed efo Instagram ers blynyddoedd, ac mae steil personol yn bwysig iawn i fi – dw i’n meddwl bod hwnna wedi dod drwyddo yn y tŷ hefyd.

Papur wal

Wnaethon ni ail-wneud y ffenestri sash i gyd a rhoi rhai pren mewn. Roedd hynny’n fuddsoddiad, ond maen nhw wedi cadw cymeriad y tŷ ac ry’n ni wedi moderneiddio cryn dipyn tu mewn.

Mae gyda ni lawr parquet yn y lolfa, ac mi wnes i ddod o hyd i bapur wal gan House of Hackney efo dail mawr a blodau pinc. Dw i wedi gweithio’r lolfa rownd y papur wal. Es i am soffa melfed mewn gwyrdd tywyll o Loaf, cadair felfed pinc ac mae un statement piece – y sideboard aur o Maisons du Monde. Mae lot o aur yn yr ystafell, fel y bwrdd coffi a’r lamp jiráff. Mae’n ’stafell hynod o ysgafn a llachar. Mae’n rhywle i ymlacio, lle gall Elsi chwarae hefyd.

Yn y gegin mae gyda ni extractor fan copr o’r Eidal a dw i wedi cynllunio’r gegin rownd hwn. Mae cypyrddau’r gegin mewn lliw du matt o Habitat ac mae’n gweithio mor dda efo’r extractor fan a’r sinc copr. Ro’n i hefyd eisiau range cooker – dw i’n gneud lot fawr o goginio ac ry’n ni’n diddanu lot felly o’n i moyn dwy ffwrn. Ro’n ni eisiau i’r llawr edrych fel concrit felly ry’n ni wedi mynd am deils mawr iawn, sy’n edrych yn gwmws fel concrit.

Wrth fynd lan y staer mae yna bosteri wedi’u fframio dw i wedi casglu gan gwmnïau Cymraeg. Dw i wedi comisiynu cynfas mawr ar gyfer y lolfa gan Mari Gwenllïan [sy’n creu mapiau cain, ac un o chwiorydd y grŵp Sorela] a dw i’n falch iawn i gael cefnogi ffrind.

Yn yr ystafell ymolchi lan staer ro’n i eisiau ystafell binc ac mae gynnon ni deils hecsagonol pinc a bath freestanding. Y lolfa a’r bathroom pinc ydy fy hoff ’stafelloedd yn y tŷ. Mae ’stafell ymolchi efo cawod lawr staer sydd â naws mwy industrial.

Cadair dweud stori

Mae gen i gwpwrdd roth Mam-gu i fi gyda’r llestri oedd ganddi hi ynddo fe, a dwy gadair fach rattan roth Nain i fi – maen nhw’n atgof hyfryd ohoni hi. Roedd fy Mam hefyd wedi rhoi cadair fach binc vintage i fi sydd yn ystafell wely Elsi. Dyma’r gadair lle dy’n ni’n dweud stori wrthi bob nos.

Beicio

Mae gardd fach gyda ni gyda bwrdd i ddiddanu a barbeciw. Ond rhywle i Elsi gael ymarfer corff yw hi’n bennaf, ac mae trampolîn, sleid a thŷ bach efo cegin a siop. Mae lle hefyd i’r beics – ry’n ni’n feicwyr mawr. Mae Elsi ar y gadair fach tu ôl i Jo ac ry’n ni’n seiclo am filltiroedd.

Cartref

Calon y cartref yma yw’r tri ohonon ni. Mae’r cartref wastad wedi bod yn bwysig i fi. Dw i’n hoffi amser ar ben fy hunan – dw i mewn proffesiwn sy’ mor gymdeithasol, mae’n bwysig cael amser ar ben fy hun neu jest efo’r teulu. Mae’r cartre’ hyd yn oed yn fwy pwysig nawr ac mae’n hyfryd cael byw yn y cartre’ ni wedi creu.

Fe fydd Rhian Lois yn trafod ei gyrfa ar Miwsig fy Mywyd ar S4C nos Sadwrn yma am wyth.