Peilot efo cwmni easyJet yw’r Cymro sydd wedi cychwyn deiseb i atal newid enwau Cymraeg tai yng Nghymru.

Yn wreiddiol o Wynedd, mae Robin Aled Davies bellach yn byw yn Llanbedr Dyffryn Clwyd ar gyrion Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Ddechrau’r wythnos, yn siarad â Golwg o ynys heulog Menorca yn y Môr Canoldir, eglurodd ei fod wedi mynd am dro “a gweld yr enwau mwya’ erchyll a hyll ar dai. Mae yna un rownd y gornel i ni o’r enw Two Hoots.”