Steil

Dw i ddim yn sicr fod gen i un steil yn arbennig – dw i’n dipyn o chameleon! Mae’n dibynnu lle dw i’n mynd. Ond ers i fi ddechrau gweithio yn Kiti Cymru ers dros flwyddyn, mae gen i’r esgus perffaith i wneud mwy o ymdrech.

Fy Mam wnaeth ddylanwadu fwya’ arna’ i.

Roedd hi yn ddynes steilish IAWN ac roedd ganddi obsesiwn efo dillad – sydd bellach wedi cael ei basio ymlaen i mi, a dw i wedi ei basio i Meri, fy merch fach chwech oed.