Mae Mick Antoniw, AS Llafur Pontypridd a chyn-Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gwyntyllu’r syniad ar bodlediad bod datganoli yn “farw”.

Mewn pennod ddiweddar o bodlediad Golau mae’r gwesteion yn trafod effaith Covid-19 ar ddatganoli, ac mae Mick Antoniw yn rhannu barn gref am y sefyllfa.

Mae’n dweud bod Brexit wedi “taflu golau ar wendidau cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig”, a bod y coronafeirws yn dwysau pethau ymhellach.