Ers dechrau mis Mai eleni mae 2,000 yn rhagor wedi ymuno efo’r mudiad dros annibyniaeth, YesCymru, gan ddod â chyfanswm yr aelodaeth i dros 5,000.

“Mae twf syfrdanol wedi bod ers i Covid ddechrau,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru, cyn mynd ati i gynnig sawl rheswm am y cynnydd.

“Mae pobol yn gweld bod Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanast o Covid ac yn gweld gwledydd annibynnol fel Iwerddon neu Seland Newydd – gwledydd bychain [yn llwyddo’n well].