Mae’n biti mawr nad ydi ysgolion mewn llawer o ardaloedd am allu agor am wythnos ychwanegol cyn gwyliau’r haf.

Roedd cynllun Llywodraeth Cymru’n edrych yn un digon doeth … cyfnewid wythnos o wyliau rŵan am wythnos ychwanegol adeg hanner tymor yr hydref.

Mae’n ymddangos bod y syniad wedi’i chwalu ar greigiau cytundebau gwaith ac amheuon yr undebau … y cytundebau gwaith yn ymwneud yn benodol â staff cynorthwyol sy’n cael eu cyflogi yn ystod amser tymor, a dyna i gyd.