Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn dweud bod y diwylliant woke yn “hollol annerbyniol” ac yn galw ar i bobol “gallio” yn dilyn y protestio diweddar.

Fis diwethaf yn yr Unol Daleithiau, cafodd dyn du o’r enw George Floyd ei ladd gan blismyn gwyn.

Mi wnaeth hynny danio llu o brotestiadau tanllyd ledled y byd yn erbyn hiliaeth a phlismona treisgar, a bellach mae hynny wedi esgor ar drafodaeth ddyfnach ynghylch hiliaeth.