Rwyf wrth fy modd gyda byd natur.

Yn fy ngardd mae gennyf wair, blodau (un coch ac un melyn), morgrug a malwod.

Wrth fynd am dro gyda’r teulu rwy’n mwynhau eu haddysgu am fyd natur. Gallaf egluro, er enghraifft, sut i adnabod blodau glas (drwy gyfeirio at liw’r petalau) a sut i bluo ŵyn.

Ond nid wyf yn gwybod popeth. Tra’n cerdded gyda fy nhad-yng-nghyfraith yn ddiweddar, fe welais ffermwr yn arwain buwch. Mewn ymdrech i greu argraff fe ofynnais i’r ffermwr: