Mae’r grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi bod yn talu teyrnged i’r diweddar Mohammad Asghar.
Bu farw’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd yr wythnos ddiwethaf ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty. Roedd yn 74 oed.
Mohammad Asghar oedd y Mwslim cyntaf yng Nghymru i gael ei ethol yn gynghorydd sir, a hynny ar Gyngor Dinas Casnewydd.
Yna, yn 2007, fe ddaeth yn aelod cynta’r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, o leiafrif ethnig wrth iddo gael ei ethol i gynrychioli Dwyrain De Cymru ar ran Plaid Cymru.