Mae’r pêl-droed byw yn ôl ar ein sgriniau, ac er nad oes torfeydd, rydw i wedi mwynhau gallu clywed y chwaraewyr yn cyfathrebu ar y cae. Mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn dweud llawer o bwys – ond mae’n atgoffa fi o wylio gemau lleol yn y gogledd. Tybed beth fase gwylwyr S4C yn glywed wrth wylio gêm rhwng Llanceunant a Bethania United?