Faint o newid go-iawn ddaw yn sgîl llofruddiaeth George Floyd? Dyna’r cwestiwn sy’n poeni Rhodri Glyn Thomas, y cyn-Weinidog Treftadaeth…

Mae marwolaeth George Floyd wedi cyffwrdd bywydau miliynau o bobl. Eisoes, chwalwyd y gyfundrefn blismona ym Minnesota a’r bwriad yw ailadeiladu system a fydd yn rhoi mwy o hyder y bydd buddiannau pobl ddu a phobl o liw yn cael eu cydnabod.