Ers ei sefydlu yn 2006 – ar safle maes parcio yng nghefnau tafarn y Mochyn Du –  mae gŵyl Tafwyl wedi tyfu yn fehemoth sy’n denu miloedd o bob cwr o’r wlad i fwynhau perfformiadau gan FAWRION y Sîn Roc Gymraeg.

Heidiodd 40,000 i Gastell Caerdydd y llynedd i weld Candelas, Gwenno, Band Pres Llareggub, Alffa, Cary Parry Jones, Mark Cyrff a lot mwy.

Mae yn gyfle i weld YR HUFEN yn perfformio AM DDIM, a’r llynedd roedd yna waith ciwio cyn cael mynd fewn i’r castell.