Rwy’n tueddu i feddwl am ddarllenwyr Golwg fel cynulleidfa weddol ddosbarth canol, gyda diddordeb brwd yn y Gymraeg, cydraddoldeb, hawliau dynol ac Eisteddfodau.
Rwy’n eich dychmygu yn defnyddio cyfnod y cloi fel cyfle i ail-ddarllen hunangofiant Owain Glyndŵr a mynd i gerdded lonydd tawel cefn gwlad – tra’n trafod manteision polisïau sosialaidd a phrynu nwyddau lleol.