Mae ‘Plaid Diddymu’r Cynulliad’ [sic] yn dal i fodoli, mae’n debyg, a bellach mae ganddi arweinydd newydd.

Mae Richard Suchorzewski yn rhedeg busnes ym Morgannwg, bu’n gweithio ym maes banciau yn Llundain, ac mae’n ystyried datganoli yn “brosiect sydd wedi methu”.

Cyn ymuno â’r blaid yma bu yn aelod o’r Blaid Geidwadol, UKIP, ac, yn ôl y South Wales Argus y llynedd, Blaid Cymru! Daeth yn ail i Nigel Farage am arweinyddiaeth UKIP yn 2006.