Nid protestiadau am farwolaeth un dyn sy’n digwydd ledled gwledydd Prydain. Ac nid protest am yr Unol Daleithiau chwaith.

Mewn ffordd ddwys iawn, mae llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis wedi dod yn symbol o stori llawer mwy. Mae pen-glin ar wddw yn ddelwedd ag ystyr dwfn.

Yng Nghymru, mi wyddon ni fod heddluoedd yn llawer mwy tebyg o atal a holi pobol ifanc groenddu na’u cyfoedion gwyn. Ac mae digwyddiadau hiliol ar ein strydoedd ninnau hefyd.