Aros “yn eiddgar” am fwy o gig ar yr asgwrn gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut yn union i ailagor ysgolion ddiwedd y mis oedd Rebecca Williams, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol undeb athrawon UCAC, pan siaradodd â Golwg ddechrau’r wythnos.

“Rydym ni yn gobeithio y bydd y canllawiau yn fanwl iawn ac yn sicrhau cymaint â phosib o gysondeb ledled Cymru,” meddai, gan ychwanegu fod aelodau’r undeb wedi bod yn cysylltu’n ddi-baid ers y cyhoeddiad.