Mae argyfwng y coronafeirws yn braenaru’r tir ar gyfer newid radical yng Nghymru, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ers cael ei phenodi yn 2016, mae Sophie Howe, yn rhinwedd ei swydd, wedi bod yn herio cyrff cyhoeddus i feddwl am oblygiadau eu gweithredoedd ar ein plant a phlant ein plant.

Mae disgwyl iddi annog y cyrff yma i ystyried sut i ddiogelu’r amgylchedd, ein diwylliant, a’n cymunedau wrth wneud eu gwaith.