Mae cerfluniau wedi bod yn y newyddion yr wythnos hon ar ôl i brotestwyr daflu’r hen Edward Colston i mewn i’r dŵr.

Bob tro bydda i’n ymweld â stadiwm fawr am y tro cyntaf, bydda i’n mynd yn syth am unrhyw gerflun sydd wedi cael ei osod o’i chwmpas. Mae’n bosib cael argraff dda o gymeriad a hanes y clwb wrth edrych ar y cerflun neu gerfluniau y maen nhw wedi eu codi.