Y llynedd fe gyhoeddodd Ynys dwy gân hyfryd gafodd groeso cynnes.

Roedd ‘Caneuon’ ac ‘Mae’n Hawdd’ yn berlau pop jangli oedd yn dwyn i gof y Gorky’s ar eu gorau.

Dylan Hughes oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r caneuon llawn harmonïau a hiraeth, ac mae o’n ei ôl dan yr enw Ynys gyda chân newydd o’r enw ‘Aros Am Byth’.

Ac er bod yr harmonïau lleisiol yn amlwg ar y trac newydd, mae hi’n fwy Hafaidd a secsi na senglau’r llynedd.